Mae dyn 57 oed wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo mewn perthynas â ffrwydron a gwenwyn.

Fe ymddangosodd Russell Wadge gerrbon ynadon yn Hwlffordd, wedi’i gyhuddo yn unol â’r Ddeddf Sylweddau Ffrwydrol a’r Ddeddf Wenwyn.

Mar disgwyl iddo ymddangos eto gerbron Llys y Goron Abertawe ar Orffennaf 19.