Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff dyn ar goll a gafodd ei ganfod yn afon Dyfrdwy ar Fehefin 6.
Roedd Colin Purton, 78, o ardal Pen-y-ffordd, Sir y Fflint, wedi bod ar goll ers Mai 22.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae teulu agosaf yr henwr wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.
Maen nhw hefyd yn dweud nad yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, a bod ffeil wedi ei pharatoi ar gyfer y crwner.