Shân Cothi a’r Heulwen Hâf “llawn disgleirdeb”

Diweddarwyd am  
Heulwen Hâf yn un o gyfrannwyr rhaglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru

Heulwen Hâf yn un o gyfranwyr rhaglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru

Llun Rhaglen Bore Cothi BBC Radio Cymru

Roedd y ddiweddar Heulwen Hâf yn berson a oedd yn “llawn disgleirdeb”, meddai’r gyflwynwraig a’r gantores, Shân Cothi.

Yn ogystal â chyfrannu’n gyson i raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru, bu Heulwen Hâf hefyd yn cydweithio â Shân Cothi ar nifer o brosiectau elusennol, yn enwedig wrth godi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre.

“Pan oedd Heulwen Hâf yn cerdded i mewn i’r stafell, roeddech chi’n gwybod eich bod chi ym mhresenoldeb rhywun llawn disgleirdeb,” meddai Shân Cothi wrth golwg360.

“Roedd yna harddwch ac ysbryd arbennig yn perthyn iddi hi. Roedd hi’n dod â llonyddwch hefyd, yn enwedig gan ei bod hi’n synhwyro fy mod i’n llawn egni a llawn adrenalin.

“Roedd yr effaith roedd hi’n ei chael ar ddyn yn anhygoel… Dyna ichi lady os buodd un erioed.”

Bydd noson i gofio Heulwen Hâf – ‘Hirddydd Heulwen Hâf’ – yn cael ei chynnal nos Wener yma (Mehefin 21) yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Cymru

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2019