Mae Heddlu’r De wedi cael amser ychwanegol i holi dyn ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth dyn 56 oed yn ardal Trelái yng Nghaerdydd nos Wener.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Lon-Yr-Efail, Caerau, Trelái tua 8 o’r gloch nos Wener (Mehefin 14). Er gwaetha ymdrechion y gwasanaethau brys bu farw’r dyn yn y fan a’r lle. Cafodd dyn 18 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Nid yw’r heddlu’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 190021480.