Mae bil newydd yn cael ei gyflwyno heddiw (Dydd Llun, Mehefin 17) er mwyn gwella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei gyflwyno gan y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn y Cynulliad ac yn ailwampio ac ehangu’r ddyletswydd sydd ar gyrff y Gwasanaeth Iechyd yn barod.

Fe fydd hi’n gosod cyfrifoldeb ar Weinidogion Cymru i wella eu darpariaethau yn y maes iechyd a sicrhau tryloywder pan fydd pethau’n mynd o’i le o fewn y Gwasanaeth Iechyd.

Yn rhan o’r bil hefyd bydd lle i bobol Cymru gael “llais newydd ac annibynnol” o dan un corff fydd yn disodli’r Cynghorau Iechyd Cymuned bresennol.

O dan y corff newydd bydd unigolion sydd am wneud cwyn am eu profiad o wasanaethau iechyd a gofal yn  cael cymorth.

 “Sicrhau ansawdd”

“Yma yng Nghymru, rydyn ni’n ffodus o gael mwynhau rhai o’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau, a’r rheini’n cael darparu gan staff ymroddgar a charedig ar bob lefel,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

“Ond rhaid inni sicrhau bod yr angen i sicrhau ansawdd, ac i fod yn agored ac i ddysgu yn rhannau annatod o ddiwylliant sy’n gwrando ar leisiau ein pobl wrth fynd ati i wella gwasanaethau.”

Mae’r bil yn mynd ar y cyd a prif flaenoriaethau’r cynllun ‘Cymru Lanach’ sydd eisiau sicrhau ansawdd a system iechyd a gofal cymdeithasol addas i’r dyfodol.

Bydd y Bil nawr yn dechrau mynd drwy broses graffu yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac os bydd yn cael ei basio, fe ddaw’n gyfraith yn haf 2020.