Mae dyn 57 oed yn cael ei holi gan yr heddlu ar amheuaeth o droseddau brawychol yn dilyn archwiliad o dŷ yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’n dilyn archwiliad gan Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru o dŷ yn ardal Trimsaran, pentref rhwng Cydweli a Llanell, ddydd Mawrth.

Meddai llefarydd ar ran yr heddlu:

“Mae archwiliad arbenigol yn parhau ar ôl i gemegau gael eu darganfod yn y safle, ac mae’r safle’n dal i gael ei warchod. Cafodd plismyn arfog eu defnyddio er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Does dim perygl i dai cyfagos.”

Mae’r dyn a gafodd ei arestio yn dal yn y ddalfa “ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chomisiynu, paratoi neu ysgogi gweithredoedd o derfysgaeth, o dan adran 41 o Ddeddf Terfysgaeth 2000” yn ôl yr heddlu.