Mae gweithwyr ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn bygwth mynd ar streic mewn brwydr yn erbyn cynlluniau i gau’r ffatri’r flwyddyn nesaf.

Mewn pleidlais gan undeb Unite, roedd pedwar o bob pump o blaid gweithredu diwydiannol os bydd angen.

Fe fydd 1,700 o swyddi’n cael eu colli os bydd Ford yn parhau â’u bwriad i gau’r ffatri ym mis Medi’r flwyddyn nesaf.

Meddai Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite Cymru:

“Mae’n haelodau wedi dangos eu bod yn barod i herio Ford ac ymladd i sicrhau dyfodol eu ffatri sydd o’r radd flaenaf.

“Dydyn nhw ddim yn fodlon gadael i Ford gyflawni gweithred o ddinistr diwydiannol a fyddai’n drychinebus i ardal Pen-y-bont ac i gadwyn gyflenwi darnau ceir Cymru.

“Rhaid i Ford gydnabod y dicter sydd wedi cael ei fynegi gan bobl Cymru a gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol – ac ailfeddwl.

“Amcan Unite yw arbed y ffatri a sicrhau hynny ag y bo modd o swyddi Ford i genedlaethau’r dyfodol.”