Mae’r rhyngrwyd a’r “hinsawdd economaidd” yn peri bygythiad i siopau llyfrau annibynnol ar y stryd fawr.

Dyna rybudd y Cyngor Llyfrau ar drothwy Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol (Mehefin 15 – 22).

Mae Prif Weithredwr y Cyngor, Helgard Krause, yn dweud ei bod yn “gyfnod heriol” i siopau llyfrau, ac mae’n annog y cyhoedd i’w cefnogi.

“Mae sawl siop lyfrau wedi gorfod cau yn y blynyddoedd diwethaf,” meddai, “ond mae eraill wedi llwyddo i addasu a ffynnu.

“Mae’r siopau annibynnol yn parhau’n eithriadol bwysig, ac mae’n allweddol ein bod ni’n annog pobl i’w cefnogi.

“Mae’r Cyngor Llyfrau yn gofalu bod cefnogi siopau yn rhan greiddiol o bob penderfyniad, ac yn annog pawb i ystyried beth fyddai effaith colli’r siopau hyn ar eu cymunedau.”