Mae grŵp o ardal Llandeilo wrthi’n ystyried troi hen eglwys yn gyfres o ‘ystafelloedd ffoi’ ble mae oedolion yn gorfod datrys problemau cyn gallu dianc.

Gydag ‘ystafelloedd ffoi’,  neu escape rooms, mae pobol yn talu i gael eu cloi mewn cyfres o ystafelloedd. Mae modd iddyn nhw ffoi o’r ystafelloedd yma trwy ddatrys cyfres o bosau.

Mae Eglwys Llandyfeisant yn sefyll ar dir Parc Dinefwr, mae wedi bod ar gau ers degawdau, a bellach mae’r adeilad mewn cyflwr gwael.

Y llynedd, fe benderfynodd Beth Davies ei bod am fynd i’r afael â hynny, a bellach mae 550 o bobol yn rhan o’i grŵp Facebook i adfer yr eglwys. Mae’r grŵp wedi sefydlu deiseb ar-lein, wedi cynnal sawl cyfarfod, ac maen nhw’n meddwl am ffyrdd o drawsnewid yr adeilad.

“Mae lot o syniadau gyda ni,” meddai wrth golwg360.

Escape rooms [yw un o’r rheiny]. Dw i’n credu mai dyna yw’r ffordd ymlaen! [Rydym ni’n] ystyried pob dim. Unrhyw beth allwch chi feddwl amdano!

“Rydym ni’n ystyried yr escape rooms go-iawn. Fyddan nhw ddim yn costi lot.”

Mae’r grŵp hefyd yn credu gallai’r eglwys gael ei defnyddio fel man i dynnu lluniau priodasau, neu le i “ymlacio” yn llonyddwch byd natur, yn ôl Beth Davies.

Eglwys “ganoloesol”

Mae’r eglwys yn un “ganoloesol” gyda “lot o hanes” iddi, meddai Beth Davies, ac mae’n debyg mai’r Eglwys yng Nghymru sy’n berchen arni.

Mae’n debyg bod y corff hwnnw yn awyddus i gydweithio â’r grŵp, cyn belled â’u bod yn medru cynnig cynllun digon da.

“Dros y blynyddoedd mae’r eglwys wedi cael ei chau oherwydd doedd dim digon o arian gyda’r Eglwys yng Nghymru i wneud unrhyw beth arall â hi,” meddai Beth Davies.

“Ond mae fyny i ni nawr, y gymuned, i ddod at ein gilydd…

“Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi dweud eu bod yn fodlon rhoi’r eglwys [ar fenthyg] i ni fel cymuned, os ydyn ni’n gallu dangos iddyn nhw ein bod ni’n mynd i wneud pethach yn y ffordd iawn.”