Mae madfall wedi teithio 2,383 o filltiroedd o Ynys Kos yng Ngwlad Groeg, yr holl ffordd i Ben-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru.

Nid yw’r fadfall dan sylw yn beryglus ac fe gafodd ei hebrwng i’r wlad mewn awyren.

Ac er bod y fadfall wyrdd 20 cm wedi cuddio mewn cês drwy gydol y trip, roedd mewn cyflwr da yn cyrraedd de Cymru, meddai’r RSPCA.

Ar ôl cael ei ddarganfod, fe gafodd y fadfall ei hebrwng i ganolfan arbenigol Silent World yn Sir Benfro.

Yn ôl perchnogion y ganolfan, mae’r fadfall yn “gwneud yn eithaf da… mae yn eithaf cyfeillgar… ac mae yn bwyta locustiaid yn syth o’n dwylo”.