Mae dau o wleidyddion amlyca’ Cymru wedi cydnabod iddyn nhw gymryd cyffuriau anghyfreithlon pan oedden nhw’n ifanc.

Ond mae’r ddau hefyd wedi galw am newid llwyr yn y strategaeth i ymladd cyffuriau, gan ddweud bod y ‘rhyfel yn erbyn cyffuriau’ wedi methu.

Roedd Adam Price a Stephen Kinnock yn ymateb i gwestiynau ar ôl i rai o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol gyfadde’ eu bod nhw wedi torri’r gyfraith trwy gymryd cyffuriau caled.

Wedi cymryd

Ar y rhaglen deledu Question Time, fe ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei fod wedi cymryd cyffuriau flynyddoedd yn ôl.

“A finnau’n ddyn hoyw yn mynd i glybio yn yr 1990au, fe fyddai wedi bod yn syndod pe bawn i heb wneud,” meddai, gan ddweud nad oedd yn falch o hynny.

Ac fe ddywedodd Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock, ei fod yntau wedi bod yn defnyddio canabis yn yr ysgol yn Llundain a chyffuriau wedyn yn “ail haf cariad” y 90au.

‘Angen dulliau newydd’

Ond roedd y ddau’n condemnio gwleidyddion Ceidwadol fel y ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y Torïaid, Michael Gove a Boris Johnson, sydd wedi cymryd cyffuriau a chefnogi cyfreithiau haearnaidd i gosbi pobol sy’n cael eu dal.

Roedd y ddau wleidydd Cymreig yn galw am newid agwedd gan ddefnyddio dulliau iechyd a lles i ddelio â’r broblem yn hytrach na chyfreithiau trosedd. Roedd rhagrith y gwleidyddion Ceidwadol yn “anfaddeuol”, meddai Adam Price.

“R’yn ni’n dal i drio gwneud yr un peth gyda chyffuriau ond dyw e ddim yn gweithio,” meddai Stephen Kinnock, mab y cyn-arweinydd Llafur, Neil Kinnock, a’r cyn AS Ewropeaidd, Glenys. “Mae’n amser i ni wneud pethau newydd.”