Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl i ferch 12 oed gael ei hanafu’n ddifrifol wedi gwrthdrawiad a char y tu allan i ysgol yng Nghastell-nedd.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad tua 3.35yp ddydd Iau (Mehefin 13) tu allan i Ysgol Gynradd Mynachlog Nedd yn Sgiwen.

Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd gydag anafiadau difrifol i’w phen.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad neu luniau dash-cam yn ymwneud a char Peugeot 207 lliw aur i gysylltu â nhw ar 101.

Bu’r ffordd ynghau am rai oriau wrth i’r heddlu ymchwilio i’r digwyddiad.