Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff mewn llyn yn ardal y Rhath, Caerdydd.

Fe gafodd swyddogion arbenigol eu galw yn dilyn adroddiadau am berson yn cerdded i mewn i Lyn Parc y Rhath am tua 3yb ddoe (dydd Iau, Mehefin 13).

Yn ôl Heddlu De Cymru, maen nhw wedi adnabod y corff yn ffurfiol ac wedi rhoi gwybod i’r teulu am y canfyddiad.

Dyw’r farwolaeth ddim yn cael ei hystyried yn un amheus, medden nhw ymhellach, ac mae gwybodaeth wedi ei throsglwyddo i’r crwner.