Mae’r heddlu sy’n chwilio am ddyn, 32, o ddinas Caerdydd wedi iddyn nhw ddod i hyd i gorff yn afon Taf.

Cafodd Taha Deria ei weld y tro diwethaf yn gadael ei gartref yn Heol Penarth, Grangetown, rhwng 10.30yb a 11.30yb ddydd Iau diwethaf (Mehefin 6).

Fe ddechreuodd timau arbenigol ar y gwaith o archwilio rhan o afon Taf rhwng Wood Street a Heol Penarth heddiw (dydd Iau, Mehefin 13).

Er nad yw’r corff a gafodd ei ddarganfod wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, mae’r heddlu wedi cysylltu â theulu Taha Deria ac yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw.

Mae gwybodaeth hefyd wedi ei throsglwyddo i’r crwner.