“Dydyn ni ddim yn mynd i oddef hyn, a dydyn ni ddim yn mynd i gael ein bwlio.”

Dyna mae un o drigolion Caerdydd yn ei ddweud wrth ddatblygwyr tai a’r Cyngor, wrth i ymgyrch barhau tros amddiffyn man gwyrdd yn y Rhath.

Arweinydd yr ymgyrch yw Michelle Alexis, ac ar hyn o bryd mae hi’n “brwydro” er mwyn achub darn o dir gwyrdd ar Croft Street. Mae’n honni bod y gymuned eisoes wedi gorfodi datblygwyr tai i newid eu cynlluniau yno, ac mae’n gobeithio achub coeden sydd ar y safle.

“Cafodd yr ardal yma ei fomio’n ddifrifol yn ystod yr Ail Ryfel Byd,” meddai wrth golwg360, “ac rydyn ni’n credu taw coeden goffa yw’r goeden. R’yn ni’n credu y cafodd hi ei phlannu ar ôl y rhyfel.

“Mae’r datblygwyr eisiau ei rhwygo i lawr. A dydyn ni ddim yn hoffi hynny. Mae’r goeden yn hynod hardd pan mae wedi blodeuo. Ac mae’n ased i’r ardal yma.”

Yr ymgyrch hyd yma

Mae cynlluniau ar droed i adeiladau 14 o dai cyngor ar y safle, ac mae cyfnod o ymgynghori cyhoeddus eisoes wedi bod.

Yn ôl Michelle Alexis, mae’r ymgyrchwyr wedi “herio pob agwedd” o’r datblygiad, ac wedi llwyddo i ennill ambell gyfaddawd.

Un o’r rheiny, meddai, yw bod y datblygwyr wedi cytuno adeiladu tai sy’n gweddu a’r ardal.

Hyd yma mae dros 250 wedi arwyddo ei deiseb ar y we, ac mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, ymhlith y rheiny sy’n cefnogi ei hachos.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Caerdydd am ymateb.