Mae Glyn Davies wedi datgelu mai dod yn Aelod Cynulliad oedd ei “gyrhaeddiad mwyaf” a’i fod wedi bod yn “siomedig iawn” ar ôl colli’r sedd.

Mae’r Aelod Seneddol wedi cynrychioli Sir Drefaldwyn ers bron i ddegawd, a chyn hynny roedd yn Aelod Cynulliad tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Bellach mae wedi datgelu na fydd yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf, a’i fod am gamu yn ôl o’r byd gwleidyddol am y tro.

Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa, mae’r gŵr 75 oed yn datgelu mai ennill sedd ym Mae Caerdydd – nid San Steffan – oedd yr uchafbwynt.

“Fy nghyrhaeddiad mwyaf wrth edrych yn ôl – y cyrhaeddiad a ddaeth â’r mwyaf o foddhad i mi – oedd dod yn aelod swyddogol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru,” meddai wrth golwg360.

“Yn y cyfnod cyntaf, dw i’n credu wnes i chwarae rhan wrth ddatblygu’r sefydliad yn un trawsbleidiol … Roeddwn i’n credu y gallwn greu clymblaid enfys.

“Ond roedd angen datblygu llywodraeth amgen yng Nghymru le’r oedd pob plaid yn gweithio â’i gilydd. Dw i dal yn awyddus i weld hynny.”

Seddi

Roedd Glyn Davies ymhlith y 60 cyntaf i gael eu hethol yn Aelodau Cynulliad yn 1999, ac mi dreuliodd wyth blynedd yn y rôl honno.

Yn etholiad 2007, roedd enw’r gwleidydd yn ail ar restr y blaid ar gyfer Canolbarth Gorllewin Cymru. Methodd y blaid ag ennill mwy nag un sedd yn y rhanbarth.

Dros Glawdd Offa

Ag yntau’n cynrychioli etholaeth sy’n rhannu ffin â Lloegr, mae’n tynnu sylw at ddibyniaeth ei phobol ar wasanaethau Seisnig.

Mae’n ystyried gwasanaeth iechyd Sir Amwythig yn un o’i “brif ddiddordebau”, a dyw’r gwleidydd ddim am i Glawdd Offa fod yn rhwystr i bobol Cymru.

“Dydw i ddim eisiau fe,” meddai. “Dydw i ddim eisiau iddo fod yn ffin. Ar ddiwedd y dydd, dyna i gyd mae’r cyhoedd eisiau yw gwasanaeth a chysylltiad.

“Mae hynny’n wir o ogledd Cymru hyd at y de. Mae’r mwyafrif o’r boblogaeth yn byw’n eithaf agos i’r ffin, a dydw i ddim yn credu bod eisiau’r ffin yna yn amharu ar wasanaeth cyhoeddus.”