Mae undeb ffermwyr yn galw ar Gyngor Conwy i gynnal “ymchwiliad llawn” ar ôl iddyn nhw fynd â ffermwr y Gogarth i’r llys.

Roedd Dan Jones, a ddaeth yn denant ar fferm y Parc yn 2016, yn wynebu ugain o gyhuddiadau’n ymwneud â’i reolaeth o’r fferm ar y Gogarth.

Daeth yr achos i ben cyn pryd wedi i Gyngor Conwy benderfynu dynnu’r cyhuddiadau yn erbyn y ffermwr yn ôl, gan adael iddo wynebu bil ariannol sylweddol.

Mewn llythyr at y cyngor, mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn cyhuddo’r cyngor o ymddwyn yn “ymosodol” tuag at Dan Jones, sydd wedi gorfod benthyg £50,000 oddi ar ei deulu a gwerthu 300 o ddefaid a pheirianwaith er mwyn talu bil cyfreithiwr.

“Wrth ystyried yr ystod eang o effeithiau niweidiol – ar lefel bersonol i deulu’r Jonesiaid ac o ran enw da’r cyngor – credwn fod angen ymchwilio’n llawn i’r penderfyniad a wnaed i ddilyn yr achos hwn, ac i’r dulliau a ddefnyddiwyd gan swyddogion y cyngor…” meddai Iwan Davies o’r FUW.

“Dyletswydd i ymchwilio”

Mae Cyngor Conwy wedi amddiffyn y penderfyniad i erlyn y ffermwr, gan ddweud bod ganddyn nhw “ddyletswydd” i ymchwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd.

“Cynghorau lleol sy’n gyfrifol am orfodaeth, a phan fyddwn yn derbyn cwynion gan aelodau’r cyhoedd am garcasau anifeiliaid heb eu symud, neu sydd â phryderon am symudiadau anifeiliaid, mae arnom ddyletswydd i ymchwilio i’r cwynion hynny,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Conwy.

“Mae ar awdurdodau erlyn hefyd ddyletswydd i adolygu tystiolaeth yn barhaus wrth i wrandawiad fynd yn ei flaen ac yn yr achos hwn fe wnaeth y Cyngor y penderfyniad priodol i dynnu’n ôl.

“Gallwn gadarnhau ein bod wedi derbyn llythyr gan Undeb Amaethwyr Cymru y byddwn yn ymateb iddo’n uniongyrchol.”