Mae Heddlu Gogledd Cymru yn croesawu cyfraith newydd sy’n gwarchod cŵn a cheffylau’r gwasanaeth.

Mae’r gyfraith newydd yn golygu bod achosi niwed i anifeiliaid yr heddlu yn drosedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae hefyd yn ei gwneud yn anoddach i’r rhai sy’n achosi niwed i ddweud eu bod nhw wedi gwneud hynny er mwyn amddiffyn eu hunain.

Cafodd ‘Cyfraith Finn’ ei hysbrydoli gan Finn, sef ci blaidd a gafodd ei drywanu wrth geisio dal dyn yn Swydd Hertford yn 2016. Ni chafodd y troseddwr ei gyhuddo o achosi niwed corfforol i’r anifail, gan nad oedd y gyfraith yn caniatáu hynny ar y pryd.

Parchu anifeiliaid

“Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu mae’n wych gallu gweld rhywbeth mor gadarnhaol sy’n nodi pwysigrwydd ein cŵn,” meddai’r Rhingyll Howard Watts o Uned Gŵn Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae ein cŵn, eu trinwyr a chydweithwyr, yn rhedeg tuag at berygl ac yn gwneud gwaith gwych 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos er mwyn ein diogelu rhag niwed.

“Mae ond yn iawn fod ein hanifeiliaid yn cael gweld fel mwy nag eiddo.”