Cyngor Tref Porthmadog yw’r ail gyngor tref yng Nghymru i ddatgan cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru, a’r cyntaf yn y gogledd.

Mewn cyfarfod neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 11), fe benderfynodd y cyngor gymeradwyo cynnig i gefnogi annibyniaeth.

Roedd cynnig y Cybghorydd Simon Brooks yn llongyfarch Cyngor Tref Machynlleth a wnaeth y datganiad cyntaf o blaid annibyniaeth ym mis Mai eleni.

Y gobaith ymysg cefnogwyr annibyniaeth ydi y bydd hyn ddatblygu fel caseg eira, gyd Phorthmadog yn dod allan i ganlyn cynnig Rhydian Mason ym Machynlleth, ac mae’r mater ar agenda Cyngor Tref Ffestiniog hefyd yr wythnos hon.