Mae ymgyrchwyr iaith yn galw am ddiswyddiad aelod o gabinet Cyngor Wrecsam oherwydd yr hyn y maen nhw’n ei alw’n “ddiffygion cyson” yng ngwasanaethau Cymraeg yr awdurdod.

Mae disgwyl i’r Bwrdd Gweithredol gyfarfod heddiw (dydd Mawrth. Mehefin 11) i drafod galwad Cell Wrecsam o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae’r Gymdeithas yn galw ar i arweinydd Cyngor Wrecsam dynnu’r cyfrifoldeb dros y Gymraeg oddi ar y Cynghorydd Hugh Jones.  wrth i’r cyngor, meddai, “barhau i fethu â chyflawni ei ddyletswyddau tra’n cyflwyno adroddiadau ac ystadegau camarweiniol”.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi agor trydydd ymchwiliad i ddogfennau trethi’r Cyngor, lai na blwyddyn ers adroddiad damniol gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus arwain at iawndal ac ymddiheuriad cyhoeddus gan Hugh Jones am fethu â chywiro biliau treth cyngor am bum mlynedd yn olynol.

Ychydig dros 60,000 yw poblogaeth y sir gyfan, gan gynnwys plant, ond mae’r Cyngor yn honni bod dros 150,000 o unigolion wedi dewis Saesneg wrth gyfathrebu â nhw yn 2018-19 o gymharu â 15 yn Gymraeg.

Daeth i’r amlwg mewn pwyllgor craffu rai misoedd yn ôl bod negeseuon e-bost o’r cyhoedd yn Gymraeg yn cael eu cyfrif fel rhai Saesneg oni bai eu bod wedi eu hanfon at gyfeiriad penodol.