Fe ddylai Llywodraeth Prydain wneud “popeth o fewn ei gallu” i amddiffyn y 1,700 o swyddi yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol.

Fe gyhoeddodd y cwmni ceir yr wythnos ddiwethaf y bydd y gwaith yn y ffatri yn dod i ben ym mis Medi 2020.

Bu Jeremy Lefroy, yr aelod tros Stafford, yn un o weithwyr y ffatri yn ystod yr 1980au, ac mae’n galw ar weinidogion i sicrhau bod y ffatri yn cael ei adfer naill ai gan ford neu gwmni arall.

“Fydda i byth yn anghofio’r croeso hynod o gynnes a dderbyniais gan fy nghyd-weithwyr yn y ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr pan ddechreuais i weithio yno yn 1980, ychydig wedi iddi agor,” meddai Jeremy Lefroy.

“Mae’r bwriad i gau yn dristwch mawr i mi a dyna pam dw i’n annog y Llywodraeth i wneud pob dim  o fewn ei gallu i sicrhau bod y ffatri yn parhau naill ai o dan reolaeth Ford neu rywun arall.”

Yn ymateb ar ran Llywodraeth Prydain, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, fod cyhoeddiad Ford i adael Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o benderfyniad ehangach y cwmni i symud gwaith allan o Ewrop, a hynny oherwydd “heriau” o fewn y diwydiant ceir.

Ychwanegodd fod gweithwyr mewn ffatrïoedd yn yr Almaen a Sbaen wedi gorfod wynebu newidiadau a cholledion o ran swyddi hefyd.