Mae’r heddlu yn dal i apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Fflint lle cafodd saith o bobol eu hanafu.

Bu’r digwyddiad, a oedd yn cynnwys fan Ford a Volvo du, ar ffordd yr A5104 ger Treuddyn am tua 5.40yp ddoe (dydd Llun, Mehefin 10).

Cafodd y saith person eu cludo i Ysbyty Maelor yn Wrecsam ac Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke, gyda’u hanafiadau yn cael eu disgrifio’n rhai difrifol.

“Rydyn ni’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â chamera ar eu cerbyd, i gysylltu â ni,” meddai’r Sarjant Jason Diamond o Heddlu Gogledd Cymru.