Mae 280 o swyddi wedi’u colli yng Nghasnewydd ar ôl i gwmni rheiddiaduron, Quinn Radiators, fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

 Cafodd y staff wybod wrth fynd i’r gwaith heddiw fod eu cytundebau’n cael eu dirwyn i ben.

 Daw’r newyddion er i’r cwmni dderbyn grant gan Lywodraeth Cymru y llynedd i ddiogelu cannoedd o swyddi, ac i greu 120 yn rhagor.

 Wrth greu’r swyddi hynny, derbyniodd y cwmni fenthyciad o £3m gan Lywodraeth Cymru yn 2016.

 Agorodd y safle yn 2005 gyda chymorth arian cyhoeddus, ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn debygol o effeithio ar gwmnïau eraill sy’n disgwyl cael eu talu am gyflenwi cydrannau, gan gynnwys cwmni dur Tata Steel sy’n cyflenwi dur.

 Mae Quinn Radiators yn dweud ar eu gwefan mai nhw sy’n cynhyrchu’r “rheiddiaduron sy’n perfformio orau yn y farchnad” mewn canolfan yng Nghasnewydd sy’n cael ei ystyried “y cyfleuster mwyaf datblygedig o’i math yn Ewrop”.

 Maen nhw hefyd yn dweud bod eu “technoleg unigryw yn gosod y safon ar gyfer peirianneg, ansawdd ac arloesi”, a’u bod yn “gwthio’r ffiniau ym mherfformiad gwres”, gan “fuddsoddi yn y cynnyrch, prosesau a phobol gorau”.

 Mae gan y cwmni fwy na 35 mlynedd o brofiad yn y diwydiant gwres, ac yn brif wneuthurwr rheiddiaduron Round Top Ewrop.

 Mae’r cwmni’n cyflogi tua 300 o bobol ar y safle.

 Yn dilyn trafferthion ers rhai misoedd, mae’r cwmni wedi bod yn ceisio dod o hyd i brynwr ers tro, ond fe ddaeth y trafodaethau diweddaraf i ben yr wythnos ddiwethaf, gan arwain at y penderfyniad i droi at weinyddwyr.