Mae arweinwyr undeb yn annog y Llywodraeth i beidio caniatáu i’r cwmni ceir Ford “sleifio i ffwrdd” o’u ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ôl cyhoeddi ei bod yn cau.

Yn ôl undeb y GMB, mae mwy na hanner y 1,700 o weithwyr yn y ffatri eisiau aros yn hytrach na wynebu cael eu diswyddo’r flwyddyn nesaf.

Fe fu’r undeb yn trafod yr opsiynau ar gyfer y ffordd ymlaen yn ystod galwad gyda’r Ysgrifennydd Busnes Greg Clarke, gweinidog economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, ac Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns heddiw (dydd Llun, Mehefin 10).

Dywedodd Mike Payne, uwch drefnydd y GMB: “Mae gweithwyr Ford yn dychwelyd i’r ffatri heddiw am y tro cyntaf ers penderfyniad gwarthus y cwmni i gyhoeddi bod y ffatri yn cau.

“Ni ddylai’r cwmni allu cerdded i ffwrdd o Ben-y-bont ar Ogwr gan adael cymuned wedi ei difrodi ar ei ôl.

“Mae mwy na hanner y gweithlu yn despret i aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Os ydy Ford yn meddwl y gallen nhw sleifio i ffwrdd, mi ddylen nhw feddwl yn ofalus.

“Mae’n rhaid i Ford gyflawni eu hymrwymiadau i’r gweithlu ymroddedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr.