Mae’n rhaid i Gymru fod “ar flaen y gad” yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig, yn ôl Aelodau Cynulliad.

Maer Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn dweud bod angen i Gymru barhau i arloesi ac i fod yn uchelgeisiol o ran ei chyfrifoldebau amgylcheddol.

Mewn adroddiad, maen nhw’n awgrymu cyfres o gynlluniau posib, gan gynnwys codi treth ar ddeunydd pecynnau plastig ac annog pobol i ddychwelyd eitemau plastig er mwyn eu hailgylchu.

Ddechrau mis Mai, fe gyhoeddodd y Cynulliad Argyfwng Hinsawdd – y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i wneud hynny.

Mae Aelodau Cynulliad yn dweud na ddylai Llywodraeth Cymru “aros i eraill” cyn gweithredu yn erbyn llygredd plastig.

“Mae amser yn brin”

“Llygredd plastig yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein planed,” meddai’r Aelod Cynulliad Mike Hedges, cadeirydd y pwyllgor.

“Ni allwn aros mwyach. Mae’n bwysig ein bod yn camu ymlaen ac yn arwain lle y gallwn.

“Mewn protestiadau a gorymdeithiau ar draws y byd, rydym wedi gweld pobol yn erfyn ar lywodraethau i weithredu ar frys.

“Maen nhw’n sylweddoli, fel rydym ni, ein bod ni yng nghanol argyfwng amgylcheddol. Mae angen newid ar lefel systematig os ydym am ateb yr her hon. Ac mae amser yn brin.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb, dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw eisoes yn gweithredu ar nifer o gynlluniau atal llygredd plastig.

“Mae rhoi sylw i lygredd plastig yn rhan allweddol o’n pontio ni at economi gylchol sy’n cadw adnoddau mewn defnydd cyn hired â phosib,” meddai llefarydd.

“Mae hyn hefyd yn allweddol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae’n cynnig cyfleoedd economaidd sylweddol fel rhan o’r pontio at economi carbon isel.”