Mae dau o bobol wedi cael eu hanafu’n ddifrifol ar ôl cael eu taro gan fan ger clwb nos yng Nghwm Rhondda.
Fe ddigwyddodd am 1.35 fore heddiw (dydd Sul, Mehefin 9) y tu allan i adeilad y Banc yn ardal Pentre.
Cafodd dyn 30 oed ei arestio yn y fan a’r lle.
Bu’n rhaid cau’r ffordd am nifer o oriau yn dilyn y digwyddiad, ac mae’r heddlu’n apelio am dystion.
Dydyn nhw ddim yn cysylltu’r digwyddiad hwn â’r gwrthdrawiad yn Aberdâr.