Fe fydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn derbyn £22.7m fel rhan o gynllun Cymru Iachach Llywodraeth Cymru.

Mae Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, wedi croesawu datblygiad y gronfa gwerth £100m sy’n helpu i drawsnewid gofal iechyd a chymdeithasol.

Mae’r Bwrdd Partneriaeth bellach yn cynnwys ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn yr ardal honno i beilota nifer o gynlluniau newydd i gynnig mwy o ddewis ac annibyniaeth i unigolion, wrth leihau’r pwysau ar ofal cymdeithasol, meddygon teulu ac ysbytai.

Mae’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn tynnu ynghyd yr awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus a chymunedol eraill i fod yn gyfrifol am brosiectau unigol.

Mae Partneriaethau Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg (£16.5m), Powys (£2.6m), Gogledd Cymru (£13m), Gorllewin Cymru (£12m), Gwent (£13.5m) a Chaerdydd a’r Fro (£6.9m) i gyd wedi derbyn arian fel rhan o’r cynllun.

Mae’r prosiectau sy’n cael eu hariannu’n cynnwys Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl Gogledd Cymru, Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Canolfan Gofal Integredig Aberteifi, gwasanaeth atgyfeirio pelydr-X y frest yn Llanelli a Phorth Tywyn, Canolfan Ranbarthol Wledig yn y Drenewydd, gwasanaeth awdioleg cymunedol yng Nghwm Tawe a Home First yng Ngwent.

‘Gwireddu’r weledigaeth’

“Flwyddyn yn ôl, lansiom Cymru Iachach, sef cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n darparu iechyd a gofal cymdeithasol,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Dw i’n falch ein bod ni eisoes wedi neilltuo mwy na £80m o’r Gronfa Drawsnewid £100m i gefnogi prosiectau y bydd modd eu ehangu yn y pen draw i wireddu’r weledigaeth sydd wedi’i chyflwyno yn Cymru Iachach.

Cymru Iachach yw’r tro cyntaf inni gyflwyno cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

“Mae’r pwyslais ar sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gweithio gyda’i gilydd yn ddi-dor.

“Er mwyn bodloni galwadau’r dyfodol mae angen inni newid y ffordd mae ein gwasanaethau’n cael eu cyflenwi, ac mae angen bod yn radical wrth wneud hynny.

“Rhaid inni symud oddi wrth ofal iechyd sy’n canolbwyntio ar drin pobl pan fyddan nhw’n colli eu hiechyd i un sy’n cefnogi pobl i aros yn iach, byw bywydau iachach a byw’n annibynnol am gymaint o amser â phosibl.”