Mae dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei daro gan gar yn Aberdâr.
Cafodd yr heddlu eu galw am 12.30 fore heddiw (dydd Sul, Mehefin 9).
Cafodd y dyn ei daro gan Citroen DS 3 wrth gerdded ar Stryd Caerdydd y dref.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.