Mae’r heddlu wedi arestio trydydd dyn mewn cysylltiad â marwolaeth llanc, 18, yng Nghaerdydd.

Cafodd Fahad Mohamed Nur ei drywanu ger gorsaf drenau Cathays toc cyn 12.30yb ddydd Sul (Mehefin 2), a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Mae dyn, 21, sy’n hanu o Gaerdydd, wedi cael ei arestio yn Llundain ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae bellach wedi cael ei gludo yn ôl i dde Cymru er mwyn i’r heddlu ei holi ymhellach.

Mae dau ddyn, 24 a 22, o Gaerdydd, a gafodd eu harestio ganol yr wythnos ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn dal i fod yn y ddalfa.

Mae dynes, 34, o Birmingham yn dal i fod yng ngofal yr heddlu hefyd wrth iddi gael ei hamau o gynorthwyo drwgweithredwr.

Dywed Heddlu De Cymru y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach ynglŷn â’r digwyddiad gysylltu â nhw ar y rhif, 101.