Mae Cabinet Cyngor Dinas Caerdydd yn bwriadu cymeradwyo cynllun gwerth £21m er mwyn mynd i’r afael â’r “lefelau peryglus” o lygredd aer o fewn y ddinas.

Datblygwyd y ‘Cynllun Aer Glân’ mewn ymateb i her gyfreithiol gan yr arbenigwyr amgylcheddol, Client Earth, yn erbyn Llywodraeth Cymru.

Mae’r her wedi rhwymo cynghorau sir i weithredu er mwyn gostwng lefelau llygredd aer i lefel gyfreithlon erbyn 2021.

Fe ddangosodd arolwg annibynnol hefyd fod rhan o ganol dinas Caerdydd yn debygol o dorri terfynau cyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer lefelau llygredd aer.

Er mwyn gwella ansawdd yr aer yn y ddinas mae’r cyngor eisiau newid seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng nghanol y ddinas, a chyflwyno bysus trydan.

“Teithio llesol”

“Mae llygredd aer yn Stryd y Castell yn symptom o broblem ehangach sy’n ymestyn y tu hwnt i’r darn hwn o’r ffordd,” meddai’r Cynghorydd Carol Wild, aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth.

“Efallai ein bod ni o fewn cyfyngiadau cyfreithiol ledled y ddinas, ond gorau po lanaf y gallwn wneud yr aer i bawb.

“Mae yn rhaid inni fod yn glir bod angen gostwng nifer y ceir sy’n teithio trwy ganol y ddinas a chynyddu’r lle sydd ar gael ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.”