Dyw Optometreg Cymru ddim wedi ceisio “cymell” optegwyr i beidio â darparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Dyna mae Prif Weithredwr y corff, Sali Davis, wedi ei ddweud, wedi i Gymdeithas yr Iaith eu cyhuddo o fod yn “wrth-Gymraeg”.

Mewn tystiolaeth i bwyllgor Cynulliad, mae’r corff yn nodi bod ganddyn nhw “bryderon am y goblygiadau … a ddaw o ddarparu profion clinigol mewn unrhyw iaith ond am Saesneg.”

Dywedodd Optometreg Cymru hefyd eu bod yn “cynghori” optegwyr i beidio â chynnal profion llygaid mewn sawl iaith – gan gynnwys Cymraeg – oni bai eu bod wedi astudio trwy’r iaith.

Bellach mae’r corff wedi “ymddiheuro os ydyn hyn wedi cael ei chamddehongli”.

Ymateb Optometreg Cymru

Mae’r corff yn dweud eu bod wedi “croesawu’r craffu [arnyn nhw]” , ac yn mynnu mai tynnu sylw oedden nhw at y canllawiau mae’n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â nhw.

“Rydym wastad wedi bod yn hollol gefnogol o waith Comisiynydd yr Iaith Gymraeg,” meddai Sali Davis wrth golwg360.

“Ac roeddwn yn awyddus i ddarparu tystiolaeth fel ein bod yn medru deall sut i gefnogi practisau sydd yn medru darparu’r gwasanaethau yma trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Wrth gwrs, rhaid gweithio o fewn y ffiniau proffesiynol rydym yn gweithio oddi fewn iddyn nhw. Rydym yn anelu at roi’r claf yn gyntaf, gan aros o fewn y ffiniau yma.”