Mae corff sy’n rhoi cyngor i’w aelodau i gynnal profion llygad yn uniaith Saesneg, wedi ei gyhuddo o wneud “honiadau hollol ddi-sail” er mwyn “atal eu haelodau rhag siarad Cymraeg gyda chleifion”.

Daw’r sylwadau gan Gymdeithas yr Iaith, sy’n ymateb i dystiolaeth a gyflwynodd Optometreg Cymru gerbron Pwyllgor Diwylliant y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad yr wythnos hon.

Mae’r pwyllgor wrthi’n ystyried y cyfrifoldeb sydd gan gyrff meddygol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Yn eu tystiolaeth i’r pwyllgor, dywedodd Optometreg Cymru eu bod yn cynghori optegwyr i ddefnyddio’r Saesneg, a chodi pryderon am ddefnyddio’r Gymraeg.

“Ar hyn o bryd … rydym yn cynghori [optegwyr] i beidio â chynnal profion llygaid mewn unrhyw iaith [heblaw am Saesneg] oni bai eu bod wedi astudio trwy’r iaith yna,” meddai Optometreg Cymru.

“Mae gennym bryderon am y goblygiadau meddygol a chyfreithiol a ddaw o ddarparu profion clinigol mewn unrhyw iaith ond am Saesneg.”

“Peri risg i’r claf”

Mae’r corff hefyd yn nodi na ddylai clinigwyr gael eu “gorfodi” i wneud prawf yn Gymraeg os ydyn nhw’n teimlo’n “anghyffyrddus” wrth wneud hynny.

Hefyd, yn ôl Optometreg Cymru, nid yw geiriau clinigol Cymraeg yn rhan o’n “hiaith bob dydd”, felly dyw cleifion ddim o reidrwydd yn “gwybod” beth yw’r geiriau.

“Mae defnyddio terminoleg anghyfarwydd yn peri risg i’r claf a’r clinigwr, ac yn cynyddu’r posibiliad y bydd negeseuon allweddol yn cael eu camddehongli.”

“Sioc a sarhad”

“Mae’r sylwadau yn sioc ac yn hynod sarhaus,” meddai David Williams o Gymdeithas yr Iaith.

“Dylen nhw fod yn perthyn i’r oes a fu, ac mae’r ffaith bod corff proffesiynol yn gallu dweud rhywbeth o’r fath yn dystiolaeth bellach bod angen rheoleiddio cryfach.

“Wedi blynyddoedd o’r Llywodraeth yn ceisio annog gwella agweddau yn y proffesiynau yma drwy strategaethau a chynlluniau gweithredu, mae’n anhygoel i ni bod Optometreg Cymru, fel corff proffesiynol, yn cynghori eu haelodau i beidio cynnig gwasanaeth Cymraeg.

“Mae’n agwedd ragfarnllyd ar y naw, yn wir, byddwn i’n mynd mor bell â dweud bod y corff yn wrth-Gymraeg.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Optometreg Cymru am ymateb.