Rhaid “gweithredu’n gyflym” er mwyn sicrhau na fydd busnesau Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu heffeithio pan fydd ffatri Ford yn cau, yn ôl Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.
Brynhawn ddoe (Mehefin 7), cyhoeddodd y cwmni ceir y byddan nhw’n cau ffatri injans y dref y flwyddyn nesaf.
Mae’r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 40 blwydd oed, ac mae disgwyl i 1,700 o weithwyr golli eu swyddi pan fydd yn cau ym mis Medi 2020.
Yn ôl Ben Cottam o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (FSB), mae cyfres o fusnesau bychain yng Nghymru wedi magu cysylltiadau busnes â’r ffatri, ac mi allen hwythau hefyd gael eu heffeithio.
“Gweithredu’n gyflym”
“Rhaid i lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru weithredu’n gyflym,” meddai.
“Rhaid iddyn nhw hefyd weithio â busnesau unigol a sefydliadau busnes er mwyn deall pa effaith fydd hyn oll yn ei gael.
“Rhaid penderfynu sut mae bwrw ati i ddiogelu’r busnesau yma, a’u helpu i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd.”
Mae’n ategu bod sawl busnes yn “ddibynnol” ar y ffatri, a bod cyhoeddiad ddoe yn “ergyd hynod o galed” i Ben-y-bont ar Ogwr.