Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud y bydd penderfyniad Ford yn cael effaith “ddinistriol” ar dref Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae wedi disgrifio’r weithred o gau’r ffatri yn “fandaliaeth ddiwydiannol”.

“Dw i’n barod i fynd ar ôl pob opsiwn i gadw’r ffatri ar agor,” meddai Adam Price.

“Dw i eisiau gwneud hynny er mwyn amddiffyn swyddi, ac achos ei bod yn bwysig i economi Cymru.”

Hefyd, a’r cyhoeddiad yn dod ar ddiwrnod coffa D-Day, ac mae Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn galw’r amseriad yn “neilltuol o ansensitif”.

Mae Adam Price a Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, wedi galw am gyfarfod ag uwch swyddogion Ford.