Mae cyfarwyddwr sefydliad busnes y CBI yng Nghymru wedi rhybuddio y bydd cau ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn effeithio ar economi y wlad gyfan.

“Mae’r cynllun i gau ffatri Ford ym Mhen-y-bont yn ergyd i fywydau pawb sy’n gweithio yno,” meddai Ian Price, “ond hefyd i bawb sy’n gweithio i gwmnïau sy’n darparu offer a deunyddiau ar gyfer y ffatri…

“Ond mae hefyd yn ergyd i economi Cymru gyfan.

“Mae’n rhaid gwneud yn siŵr fod y gweithwyr yn cael pob help a chefnogaeth i gael eu hail-hyffordd, i ddysgu sgiliau newydd er mwyn eu gwneud yn gyflogadwyr gan bobol eraill, yn ogystal â help i gael gwybod am bob cyfle am waith arall sy’n mynd,” meddai Ian Price wedyn. 

“Er y newyddion drwg, mae’r CBI yng Nghymru yn croesawu’r ffaith fod Ford yn cydnabod ei gyfrifoldeb at y gweithwyr, a bod y cwmni yn bwriadu ceisio lleihau effaith ei benderfyniad.”