Mae Prif Weinidog Cymru yn dweud fod y newydd am gau ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn “newyddion trist ofnadwy” i’r gymuned ac i Gymru.

Yn ôl Mark Drakeford, fe fu’r gweithlu yn ffyddlon iawn i’r cwmni

“Mae llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r ffatri am nifer o flynyddoedd, a dydi’r penderfyniad hwn gan Ford ddim yn adlewyrchiad o gwbwl ar y gweithlu medrus sydd wedi gwasanaethu’r cwmni dros bedwar degawd.

“Fe fydd llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi’r rhieny sy’n cael eu taro gan y cyhoeddiad hwn, ac fe fyddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i edrych ar y posibiliadau ar gyfer dyfodol y safle.”