Mae baner ymgyrchwyr tros atal newid yn yr hinsawdd wedi ei gollwng tros bont enwog y dre’ sy’n gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Gollyngwyd baner Extinction Rebellion Gogledd  Cymru dros bont Llanrwst, yn dilyn gweithredoedd tebyg yng Nghastell Conwy a Chastell Caernarfon yn ddiweddar.

“Y bwriad ydi  hinsawdd ar y tywydd,” meddai John Gwyn Williams. “Mae gollwng y faner dros y bont yn Llanrwst yn weithred symbolaidd.

“Ym mis Mawrth eleni gwelwyd lefel yr afon conwy yn codi i’w legel uchaf mewn hanes. O ganlyniad difrodwyd nifer fawr o dai ac eiddo oherwydd y llifogydd. Bellach mae pobol yr ardal yn byw mewn ofn bob tro daw tywydd garw.

“Dyma effaith uniongyrchol o newid hinsawdd ar y boblogaeth,” meddai wedyn.

“Mae safle’r brifwyl wedi ei symud oherwydd y peryg o lifogydd a’r ffaith bod cwmnïau yswiriant yn gwrthod ymrwymo i roi polisi ar dir sy’n rhan o orlifdir afon Conwy. Mae lefelau dŵr yn codi mor sylweddol yn effeithio ar ddigwyddiadau a chartrefi.”