Mae dau ddyn a dynes wedi cael eu harestio mewn perthynas â marwolaeth Fahad Mohamed Nur, 18, ger gorsaf drenau Cathays yng Nghaerdydd ddydd Sul (Mehefin 2).

Mae dau ddyn, 22 a 24 oed o Gaerdydd, wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, tra bod dynes 34 oed o Birmingham wedi’i harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd y dyn 22 oed a’r ddynes eu harestio ym maes awyr Heathrow fore heddiw (Mehefin 5), ac maen nhw’n cael eu cludo i Gaerdydd i’w holi.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth ar ôl i luniau camerâu cylch cyfyng ddangos dau ddyn yn ardal yr orsaf drenau, rhwng yr orsaf ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw ar Fehefin 2 yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw o ganlyniad i’w anafiadau.

Cafwyd hyd i gap un o’r dynion ger Amgueddfa Genedlethol Cymru yng Nghaerdydd.