Mae Cyngor Ceredigion yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar sefydlu ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron.

Os bydd y cynlluniau yn mynd yn ei blaen, fe all tair ysgol wledig gael eu heffeithio, sef Ysgol Ciliau Parc, Ysgol Dihewyd ac Ysgol Felin-fach.

Daw’r cyhoeddiad ychydig dros wythnos ar ôl i’r cyngor gadarnhau y bydd tair ysgol cynradd arall o fewn y sir yn cau yn ystod yr haf, gydag un ohonyn nhw – Ysgol Cilcennin – yn lleol i Ddyffryn Aeron.

Bu’r cyngor yn ystyried ad-drefnu addysg yn Nyffryn Aeron yn 2016, ond cafodd y penderfyniad ei ohirio.

Yr ymgynghoriad

Bydd sawl opsiwn yn cael ei ystyried yn rhan o’r ymgynghoriad diweddaraf, er bod y cyngor yn ffafrio sefydlu ysgol ardal ar gyfer 210 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed.

Yn ôl y cyngor, mae lleoedd gwag a chynnydd mewn costau ymhlith y rhesymau tros ad-drefnu.

Mae’r Cynghorydd Catrin Miles, aelod o’r Cabinet tros Wasanaethau Dysgu, hefyd yn dweud bod angen cynnal “safonau addysg uchel” yn y sir.

“Mae’r rhaglen foderneiddio yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod disgyblion Ceredigion yn cael y cyfleoedd gorau posib yn yr ysgol.”