Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiad mewn mosg yng Nghaerdydd fore ddoe (dydd Sul, Mehefin 2).

Cafodd swyddogion eu galw i fosg Dar Ul-Isra ar Heol Wyverne, Cathays, am 1.23 y bore.

Cafodd dau ddyn 18 a 19 oed o Gaerdydd eu harestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd ac maen nhw’n parhau i fod yn y ddalfa.

Nid yw’r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae’r heddlu’n pwysleisio nad ydyn nhw’n cysylltu’r digwyddiad hwn gyda llofruddiaeth dyn yn ardal Cathays ar yr un diwrnod.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.