Mae’r Cynghorydd Gareth Jones wedi cael ei ddisodli yn arweinydd Cyngor Sir Conwy, gyda’r Cynghorydd Ceidwadol, Sam Rowlands, wedi ei ethol i gymryd ei le.

Cafodd pleidlais ar gynnig i gael gwared ar y cyn-Aelod Cynulliad sydd wedi bod yn arwain y cyngor ers 2017 ei chynnal mewn cyfarfod llawn y bore yma (dydd Llun, Mehefin 3).

Roedd y cynnig wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sam Rowlands, a gafodd ei ddiswyddo o’r cabinet – clymblaid rhwng y Blaid Geidwadol, Plaid Cymru ac aelodau annibynnol – yn ddiweddar.

Daeth y bleidlais gyfrinachol i ben yn gyfartal – 26 pleidlais yr un – ond fe benderfynodd cadeirydd y cyngor, Peter Lewis, bleidleisio dros ddisodli Gareth Jones fel arweinydd.

Yn dilyn hynny, fe gafodd Sam Rowlands ei ethol yn arweinydd newydd mewn ail bleidlais.

Roedd wedi derbyn cefnogaeth gan 30 cynghorydd, tra bo 19 wedi pleidleisio o blaid y Cynghorydd Wyn Ellis Jones o Blaid Cymru ac un wedi ymatal.