Mae cyn-arweinydd plaid UKIP yn y Cynulliad wedi cyhoeddi ei fod yn mynd i ymuno a’r ras i fod yn arweinydd y blaid dros wledydd Prydain.

Dywed Gareth Bennett, yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru ers 2016, ar Twitter bod “angen dull newydd arnom i fynd a UKIP yn ei blaen.”

“Mae gennyf faniffesto cryf a all roi UKIP yn ôl ar y map gwleidyddol,” meddai.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn ymadawiad Gerard Batten ar ôl blwyddyn yn arwain y blaid.

Dim ond Gareth Bennett a Neil Hamilton sydd yn cynrychioli UKIP yn y Cynulliad erbyn hyn ar ôl i David Rowlands adael i ymuno a Phlaid Brexit.