Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn lansio ymgynghoriad heddiw (Dydd Llun, Mehefin 3) ar ddyfodol pum ysgol gynradd.

Ar hyn o bryd mae Ysgol y Ddwylan yng Nghastell Newydd Emlyn, Ysgol Griffith Jones Sanclêr, Ysgol Llys Hywel yn Hendy-gwyn ac Ysgol Llangynog yn cynnig addysg Cymraeg a Saesneg.

Ond mae cynnig wedi cael ei wneud i newid yr ysgolion hyn i rai Cymraeg gyda’r dewis o gyfrwng Saesneg yng nghyfnod allweddol dau.

Byddai Ysgol Rhys Pritchard yn Llanymddyfri yn newid i fod yn ysgol Gymraeg hefyd.

 “Strategaeth ar yr iaith Gymraeg”

Mae’r cynigion yn mynd ochr yn ochr â Chynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a’i weledigaeth i Sir ddwyieithog.

Gobaith y Cyngor yw gweld yr holl ddisgyblion yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn rhugl erbyn diwedd cyfnod allweddol 2.

“Hyn sydd tu ôl i’r newid yw’n strategaeth ni ar yr iaith Gymraeg – i dderbyn, i gymeradwyo strategaeth gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies ar y Post Cyntaf, BBC Radio Cymru, bore heddiw.

“I wella safon y Gymraeg, i gynnig mwy o gyfleoedd yn y Gymraeg. Mae’n rhaid ei rhoi hi ar waith a hynny ar fyrder.”

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ydi’r nod.”

 “Rôl allweddol”

“Mae rôl allweddol gan ei hysgolion i chwarae wrth gyrraedd y nod yna,” meddai Glynog Davies.

“Dyma pam mae angen dechrau ar y strategaeth nawr, dyma pam mae’r strategaeth ’ma mor bwysig dyma pam rydyn ni’n mynd i fynd ati.”

Mae Glynog Davies wedi bod yn gweithio ar bortffolio strategaeth y pum ysgol ers dwy flynedd.

Mae’n nodi bod “pobol yn amharod i dderbyn newid ar brydiau,” mae’n pwysleisio mai nod y Cyngor yw “gweld pob plentyn yn gwbl ddwyieithog erbyn eu bod yn gadael yr ysgol gynradd.”

Fe fydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal hyd at Fehefin 30 gyda sesiynau ymgynghori agored yn Ysgol Llys Hywel fory (Dydd Mawrth, Mehefin 4) rhwng 5 a 7 y nos.

Bydd y llall ar ddydd Iau (Mehefin 6) yn Ysgol Griffith Jones ar yr un amser.