Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn yng Nghaerdydd fore heddiw (dydd Sul, Mehefin 2).

Cafodd yr heddlu eu galw i lôn ger gorsaf drenau Cathays am 12.24yb, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu.

Bu farw’r dyn yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn ddiweddarach, ond dydy e ddim wedi cael ei adnabod hyd yn hyn.

Mae dau ddyn 18 ac 19 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio, ond nid yr un ddau â’r rheiny sydd wedi’u harestio yn dilyn ail ddigwyddiad ger mosg yn y brifddinas.

Mae’r heddlu’n pwysleisio nad ydyn nhw’n cysylltu’r digwyddiad hwn â’r “digwyddiad difrifol” ger mosg yn yr un ardal.