Mae arweinydd Cyngor Conwy, y cyn-AC Gareth Jones, yn wynebu ymgais i’w ddisodli ddydd Llun – a gall ei dynged ddibynnu ar ennilll cefnogaeth ei gyd-aelodau o Blaid Cymru.

Cynghorydd Torïaidd, Sam Rowlands, a gafodd ei ddiswyddo o’r cabinet yn ddweddar, sy’n cyflwyno’r cynnig i ddisodli Gareth Jones fel arweinydd.

Mae’n ymddangos fod y cynnig yn rhan o ymgais gan amryw o grwpiau’r cyngor i ffurfio clymbleidiau newydd i gipio grym – ac y gall y canlyniad fod yn agos.

Ar hyn o bryd, mae aelodau Plaid Cymru ar y cyngor wedi hollti’n ddwy garfan.

Ar y naill law, mae’r grŵp swyddogol a oedd yn gwrthwynebu penderfyniad Gareth Jones i ffurfio clymblaid gyda Cheidwadwyr ac aelodau annibynnol yn 2017. Yn ogystal, mae tri chynghorydd sy’n dal yn aelodau o Blaid Cymru er nad ydyn nhw’n aelodau o’r grŵp yn eistedd yn y cabinet – sef Gareth Jones ei hun, Garffild Lewis a Liz Roberts.

Mae disgwyl y bydd aelodau’r grŵp swyddogol yn cyfarfod yfory i drafod a fyddan nhw’n cefnogi eu cyd-bleidiwr ai peidio ddydd Llun.