Brennig Davies o Wenfro, Bro Morgannwg, yw enillydd Coron Eisteddfod Caerdydd a’r Fro 2019.

Ar ôl derbyn ei addysg yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, aeth ymlaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae’r gwaith buddugol yn dilyn bywyd dynes sy’n mabwysiadu llwynog.

Dynes “sy’n gwybod bod yr hyn y mae’n ei wneud yn anghywir ac yn ddinistriol,” meddai’r beirniaid Guto Dafydd ac Elinor Gwyn.

Ysbrydoliaeth

Yn ôl Brennig Davies, ei athrawon yn yr ysgol wnaeth danio ei awydd i geisio am y goron eleni.

“Fe’m hysbrydolwyd i gystadlu am y Goron eleni oherwydd anogaeth yr Adran Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, yn enwedig Miss Heledd Lewis,” meddai Brennig Davies.

“Hwb arall oedd ennill y gystadleuaeth Rhyddiaith Blwyddyn 12 a 13 yn Eisteddfod yr Urdd llynedd, a’r teimlad o fod eisiau glynu at fy ngwreiddiau Cymreig er fy mod nawr yn byw hanner y flwyddyn yn Lloegr!”

Mae’n gobeithio dychwelyd i Gymru ar ôl graddio i fyw ger y môr a “’sgwennu yn y Gymraeg ac yn y Saesneg”.

Fe enillodd Brennig Davies BBC Young Writers’ Award pan yn 15 oed.

“Empathi”

Wrth drafod y gwaith buddugol, dywedodd beirniaid Guto Dafydd ac Elinor Gwyn:

“Er mor absẃrd yw’r syniad, mae empathi FLEUR DE TAF [ffug enw Brennig Davies] yn golygu bod y stori’n rhyfedd o gredadwy.

“Mae’n defnyddio barddoniaeth R Williams Parry’n ogleisiol… Mae mewn rheolaeth lwyr o’r plot bob amser ac mae’n creu teimlad o dywyllwch swreal y byddem wrth ein bodd yn darllen mwy ohono.

“Roeddem yn synhwyro bod FLEUR DE TAF yn berson gyda digon o hyder yn ei syniad, a gallu strwythurol, i beidio â bod angen dangos ei gorchest.”

Megan Angharad Hunter o Aelwyd Dyffryn Nantlle ddaeth yn ail, tra daeth Caryl Bryn Hughes o Aelwyd JMJ Prifysgol Bangor yn drydydd.