Mae penderfyniad cyngor tref i gefnogi annibyniaeth i Gymru yn brawf bod y  “syniad yn cydio”.

Dyna mae Cadeirydd y Mudiad Yes Cymru wedi ei ddweud wrth golwg360 yn dilyn y newyddion ddoe bod Cyngor Tref Machynlleth y cyntaf yng Nghymru i gefnogi annibyniaeth

“Dw i’n meddwl ei fod o’n symud yr ymgyrch i gear arall,” meddai Siôn Jobbins o Yes Cymru wrth.

“Rydan ni wedi dechrau’r syniad o annibyniaeth ac mae hwnna dal i fynd ond rydan ni nawr yn gweld ein bod wedi cyrraedd cam arall.

“Mae’r syniad yn cydio felly mae’r cam yma gan Fachynlleth, er mor dynn oedd hi, yn un sylweddol…

“Mae’n gam hanesyddol a phwysig iawn gan y cyngor, a dw i’n diolch iddyn nhw,”

“Rhaid i bawb ystyried annibyniaeth”

Mae Siôn Jobbins yn credu bod y parch at Senedd San Steffan wedi mynd yn gyfan gwbl yng nghanol Brexit.

A’i obaith yw y bydd mwy o gynghorau Cymru yn dilyn Cyngor Tref Machynlleth.

“Byddai’n wych gweld cynghorau eraill yn dechrau mabwysiadu hyn,” meddai.

“Mae’n dangos bod rhaid i bawb sy’n byw yng Nghymru, boed yn Llafur neu Geidwadol, ystyried o ddifrif beth sydd yn mynd i ddigwydd i Gymru mewn dwy, tair blynedd achos fe all bethau symud yn gyflym iawn.

“Dydyn ni ddim eisiau cael ein dal yn ôl, ac mae’n rhaid i ni fel cenedl gryfhau ac mae hwn yn rhan ohoni.

“Beth sy’n wych ydi bod pobol newydd yn dechrau clywed am Yes Cymru ac yn dechrau ystyried annibyniaeth.”

Tros yr Haf fe fydd Siôn Jobbins a gweddill ymgyrchwyr Yes Cymru yn dosbarthu taflenni o ddrws i ddrws.