Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod £13m yn cael ei wario ar brynu ambiwlansys newydd yng Nghymru.

Fe fydd 111 o gerbydau newydd yn cael eu prynu er mwyn cymryd lle’r cerbydau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

Bydd y rhain yn cynnwys 71 ambiwlans ar gyfer achosion brys, 33 cerbyd cludiant difrys, a saith cerbyd brys arbennig.

Fe fydd y rhain yn cael eu defnyddio ledled Cymru gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

“Gwerth am arian”

Bydd yr ambiwlansys newydd yn cydymffurfio a safonau diweddaraf yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer allyriadau llygredd.

Gan ddefnyddio injans V6 effeithlon fe fydd yr effaith ar yr amgylchedd yn cael ei leihau, meddai Vaughan Gething.

“Bydd y cerbydau newydd yn fwy dibynadwy, yn perfformio’n well ac yn costio llai i’w rhedeg, a fydd yn sicrhau gwerth am arian ar gyfer cyllid cyhoeddus,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Byddan nhw hefyd yn cynnwys y systemau cyfathrebu a’r offer diweddaraf, i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer pobl Cymru.

“Un peth dw i’n arbennig o falch yn ei gylch yw’r ffaith y bydd yr holl gerbydau cludiant difrys yn cynnwys paneli solar i droi goleuni’r haul yn drydan.”