Bydd ymgyrchwyr yn gwrthdystio ym Mae Caerdydd yn ddiweddarach heddiw er mwyn gwrthwynebu newid enw’r Cynulliad.

Dywedodd y Llywydd, Elin Jones, y llynedd y byddai’r sefydliad yn newid ei henw i un uniaith Gymraeg, sef ‘Senedd’.

Ond bellach mae wedi dod i’r amlwg mai enw dwyieithog fydd y corff yn mabwysiadu, hynny yw ‘Welsh Parliament’ a’r ‘Senedd’.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwrthwynebu’r newid yma; ac mi fydd y mudiad iaith – ynghyd ag eraill – yn protestio ar risiau adeilad y Senedd ar brynhawn dydd Gwener (Mai 31).

“Cymru unedig”

“Mae’n hen bryd i’r Llywydd wrando ar y lleisiau yma,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Osian Rhys.

“Wedi’r cwbl, mae mabwysiadu enw a brand uniaith Gymraeg yn gyfle i atgyfnerthu’r syniad bod y Gymraeg yn gallu cynnwys pawb, o bob cefndir.

“Mae’n gyfle i ddatgan y gallwn ni fod yn Gymru unedig mewn un iaith, waeth beth yw ein cefndir neu’n hiaith gyntaf.”

Y llythyr

I gyd-daro a’r gwrthdystio, mae hanner cant o bobol – gan gynnwys dysgwyr a’r di-Gymraeg – wedi llofnodi llythyr o wrthwynebiad.

Ym mhlith y llofnodwyr mae cyn-Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Llafur Phil Bale; ac ymgeisydd y Blaid Geidwadol ym Mro Morgannwg, Ross England.

Yn ôl y llythyr, byddai “gosod enw uniaith Gymraeg ar ein corff democrataidd cenedlaethol yn ffordd o ddangos bod y Gymraeg wir yn perthyn i bawb.”

Manylion

Bydd digwyddiad ‘Enw uniaith Gymraeg i’n Senedd ni’ yn cael ei gynnal am 2.00 y prynhawn; ac mi fydd yn cyd-daro ag Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.

Ymhlith y rheiny a fydd yn siarad yn ystod y digwyddiad mae’r Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, Gwion Rhisiart.