Mae saer cadair Eisteddfod yr Urdd 2019 wedi datgelu’r hyn sydd wedi’i ddylanwadau.

Mae Iolo Puw yn hanu o Barc ger y Bala, ac mae wedi creu nifer o gadeiriau o bob maint ar gyfer eisteddfodau lleol.

Dyma ei ail gadair i’r Urdd – mi weithiodd ar gadair Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 – ac mae’n egluro bod cadeiriau’r gorffennol yn ddylanwad arno.

“Mae yna lyfr am gadeiriau eisteddfod,” meddai wrth golwg360. “Mae hwnnw’n reit handi.

“Dw i ddim yn cael fy ysbrydoli fel y cyfryw. Mae jest yn dod at ei gilydd. Mae’n dibynnu ar y pren a dweud y gwir. Mae’n dibynnu ar drwch a hyd y pren ac ati.”

Does dim ganddo hoff gadair eisteddfodol, meddai, ac mae’n egluro bod y math o bren mae’n ei ddefnyddio yn dibynnu ar y cwsmer.

Taith i Gameroon

Bydd enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 yn cael ei gyhoeddi brynhawn heddiw am bedwar o’r gloch.

Datgelodd yr Urdd y bore yma y bydd enillydd y gadai yn cael mynd ar daith i Gameroon, ac yn cymryd rhan mewn gŵyl lenyddol yno.

Mae’r African Festival of Emerging Writings (FESTAE) yn cael ei chynnal yng ngorllewin gweriniaeth Cameroon, a bydd yr enillydd yn mynd yno flwyddyn nesaf.